Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



IORWERTH ab Y CYRIOG ( fl. c. 1380 ), bardd ; brodor o Fôn , a mab i'r bardd , Goronwy Gyriog , y mae'n debyg. Yn ôl marwnad Sefnyn iddo ymddengys ei fod mewn urddau eglwysig . Cadwyd peth o'i farddoniaeth, ac yn ei phlith awdl i Dduw, awdl i ferch, a chywydd i ddiolch am gae a gafodd gan ferch.

Llyfryddiaeth:

  • Jones a Lewis , Mynegai i Farddoniaeth y Llawysgrifau , a , 1928 ;
  • The Myvyrian Archaiology of Wales , , a , 1801–7; arg. arall, 1870 (arg. 1870 ), 335, 353;
  • Cymru yn hanesyddol, parthedegol, a bywgraphyddol , 1875 ;
  • J. Davies , Antiquæ linguæ Britannicæ et linguæ Latinæ, dictionarium duplex , 1632 ;
  • Eminent Welshmen , 1908 ;
  • William Owen Pughe , The Cambrian Biography , 1803 ;
  • Lewis , Roberts , a Williams , Cywyddau Iolo Goch ac Eraill, 1350–1450 , 1925, 1937 , 1925 , clxx, 213.

Awdur:

Miss Ray Looker, (Mrs Ray Morgan), Caerdydd / Rhymni