Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



IORWERTH BELI , bardd , yn canu yng Ngwynedd yn gynnar yn y 14eg g. Canodd awdl i esgob Bangor ( Myv. Arch. , 317-8) ‘i ymliw ag ef am esgeuluso beirdd a mawrhau cerddorion .' Llinynnir toddeidiau yn y gerdd hon, ac yn ôl Cerdd Dafod , 339, awdl a ganwyd yn 1322 yw'r gynharaf y gellir ei dyddio lle y gwneir hyn. Yn awdl Iorwerth Beli , ceir cipdrem ar gyflwr a safbwynt beirdd y cyfnod wedi cwymp Llywelyn . Bellach y mae'r beirdd a ymfalchïai yn nhraddodiad y penceirddiaid yn troi at yr esgob , gan ddisgwyl iddo ef mwyach ymddwyn fel ‘ Pendefig, gwledig gwlad y Brython ,' a chan ei atgoffa o urddas y bardd yn llys Maelgwn gynt. Ond nid yw'r esgob yn dewis cynnal y traddodiad hwn o gwbl. Esgeulusa feirdd , a rhydd urddas a dillad gwych ar ‘ wehilion ' cerdd, ac i ‘ iangwyr Saeson ,' gyda'u ‘ dwrdd clustiau ,' eu ‘ cân berchyllson debyg ,' eu cyrn a'u tabyrddau, ac fe'u perchir am wybod Saesneg . Rhaid felly bod yr esgob yr edliwid hyn iddo yn Gymro , ond yn gefnogol i Saeson a'u difyrrwch. Canwyd yr awdl felly, gellid meddwl, cyn 1327 , a'r tebyg yw mai yn ystod esgobaeth Anian Sais y gwnaed, sef rhwng 1309 a 1327 .

Llyfryddiaeth:

  • The Myvyrian Archaiology of Wales , , a , 1801–7; arg. arall, 1870 , 317-8.

Awdur:

David Myrddin Lloyd, M.A., (1909-81), Aberystwyth / Yr Alban