Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



IOLO GOCH ( c. 1320 - c. 1398 ), bardd ; brodor o ddyffryn Clwyd , mab Ithel Goch ap Cynwrig ab Iorwerth Ddu ap Cynwrig Ddewis Herod ap Cywryd . Yn ôl stent arglwyddiaeth Dinbych gan Hugh de Beckele yn 1334 , daliai Ithel Goch ddarn bach o hen etifeddiaeth y teulu ar rent yn nhref Lleweni , ac yr oedd ganddo dŷ i fyw ynddo yno. Yn ychwanegol rhentai oddi wrth yr arglwydd ddarnau bychain o dir yn Llechryd ac ym Merain . O'r gweithiau a briodolir i Iolo yn y llsgrau, yr hynaf a ellir ei ddyddio yw awdl i Dafydd ap Bleddyn , esgob Llanelwy o 1314-46 , ac un o'r rhai diweddaraf yw cywydd i Ieuan Trefor II [q.v.] , esgob Llanelwy , a ganwyd yn ôl pob tebyg yn 1397 . Rhwng y ddau begwn hyn ceir cywyddau ganddo fel hyn: mawl i Edward III , diwedd 1347 ; marwnad Syr Rhys ap Gruffudd a fu f. yn 1356 (yr oedd Iolo yn ei angladd yng Nghaerfyrddin ); marwnad Tudur Fychan , Tre'r Castell , Môn , a fu f. yn 1367 ; mawl i Syr Hywel y Fwyall , cyn 1381 ; marwnad Ithel ap Robert , archddiacon Llanelwy , a fu f. 1382 ; marwnad Ednyfed a Gronwy , meibion Tudur Fychan ( boddodd Gronwy yn 1382 ); mawl i Ieuan ab Einion o Chwilog pan oedd yn siryf Caernarfon ( 1385-90 ); mawl i Syr Rosier Mortimer , iarll Mars (a iarll Dinbych) , a ganwyd rhwng 1395 a 1398 ; ac awdl fendith ar lys Hywel Cyffin , deon Llanelwy o 1385-97 . Ceir tri chywydd a ganodd i Owain Glyndŵr , ond prin iawn y gellir dyddio'r olaf o'r tri wedi 1386 . Perthynai Iolo felly yn hollol i'r 14eg g. , ac yr oedd yn gyfoeswr â Dafydd ap Gwilym a Llywelyn Goch Amheurig Hen ; canodd farwnadau i'r ddau. Bu hefyd yn ffraeo'n farddol gyda Gruffydd Gryg . Canodd awdlau yn null y Gogynfeirdd, a hyd yn oed yn ei gywyddau ceir digon o olion hynafiaeth o ran geirfa a chystrawen. Fel Dafydd ap Gwilym cwerylodd yn bur gas gyda'r Brodyr Llwyd . Mewn un cywydd, ar ddull ymddiddan rhwng yr enaid a'r corff (hen thema lenyddol), disgrifia daith glera drwy Geri , y Drenewydd , Maelienydd , Elfael , Buallt , Blaenau Taf , Caeo , Cydweli , Ystrad Tywi , yr Hen Dygwyn-ar-Daf , Ceredigion hyd Ystrad Fflur , a hynny efallai tua 1387 . Un o'i gywyddau enwocaf yw hwnnw i'r llafurwr, gyda'i ddisgrifiad gwych o'r aradr. Pennaf noddwr Iolo Goch oedd Ithel ap Robert . Yr oedd y rhan fwyaf a folodd yn bleidwyr selog i goron Lloegr , ac ni chododd ei lef mewn gwrthryfel.

Llyfryddiaeth:

  • Lewis , Roberts , a Williams , Cywyddau Iolo Goch ac Eraill, 1350–1450 , 1925, 1937 (arg. 1925 ), ix-lxxvii; (arg. 1937 ), ix-xii.

Awdur:

Athro-Emeritus Henry Lewis, D.Litt., (1899-1968), Abertawe