Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



INGRAM , JAMES (bu f. 1788 ), cynghorwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a gweinidog gyda'r Annibynwyr wedyn ; ni wyddys pa bryd y g. ef, ond ei gartref oedd Cefn Brith ym mhlwyf Cefn-llys , sir Faesyfed ( Cylch. Cymd. Hanes M.C. , xxxv, 47). Daeth yn llencyn dan ddylanwad Howel Harris , ac ym mis Tachwedd 1742 (ibid., xxxv, 24) yn Errwd , cytunwyd iddo fod yn glerc a chydymaith i Harris ar ei deithiau; efe, ar ôl 1743 , a gadwai gofnodion y sasiynau , ac y mae llawer o'i waith fel copïydd llythyrau Harris i'w weld ym mhapurau Trefeca . Cynghorai hefyd; yn wir, fe'i cofir yn bennaf am yr helynt a fu pan gipiwyd ef i'r fyddin yn 1744 ( Tadau Meth. , i, 222-3) — ffurf ar erlid cynghorwyr Methodistaidd oedd hon, oblegid gan nad oedd Ingram yn fawr talach na phum troedfedd, nid oedd mewn gwirionedd yn atebol i ofynion byddin na llynges; ar ôl cryn ymdrechion gan Harris a Marmaduke Gwynne [q.v.] a'r iarlles Huntingdon ac eraill, rhyddhawyd Ingram ac ailddechreuodd gynghori . Y mae yng nghasgliad Trefeca ryw ddeugain o lythyrau a basiodd rhyngddo ef a Harris ac eraill, yn ymestyn o Ionawr 1743 hyd Orffennaf 1750 . Ni lynodd wrth Harris yn yr ymraniad — yn wir, y mae'r ohebiaeth rhyngddynt yn prinhau o 1747 ymlaen. Dywed cofnod Morafaidd yn Hwlffordd ( Cymm. , xlv, 34) iddo fynd at yr Annibynwyr a marw'n weinidog Annibynnol yn Llwydlo . Ysywaeth, gedy'r cofnod hwn fwlch o gryn ugain mlynedd yn ei hanes, oblegid gweinidog Annibynnol Llwydlo ( Corve Street ) ar y pryd oedd Jenkyn (neu Jenkins Cymro , gyda llaw), ac yn ôl dyddlyfr cynulleidfa Forafaidd Llanllieni ( Traf. Cymd. Hanes Bed. , 1935, 16), yn 1770 y bu hwnnw f.; yna ( Elliot , Congregationalism in Shropshire , 102), ‘ the next pastor was Mr. Ingram of Maesgronnin , Brecon [ Maesyronnen ym Maesyfed ]; this pastor d. in 1788 , and was buried in the chapel yard. ' Nid oedd Ingram , fodd bynnag, yn ‘ weinidog ' ym Maesyronnen , oblegid y mae olyniaeth bugeiliaid yr eglwys honno'n weddol ddifwlch rhwng 1748 a 1775 ( H. Egl. Ann. , ii, 528) heb unrhyw sôn amdano ef. Tebyg mai aelod o'r eglwys ( led-Fethodistaidd ) honno oedd Ingram , ac y byddai'n pregethu'n gynorthwyol ynddi ac yn yr ardaloedd cyfagos.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor