ILLTUD
(
c.
475
-
c.
525
),
sant Celtig ac un o sefydlwyr mynachaeth ym Mhrydain
.
Y ddogfen gynaraf sydd yn rhoddi inni ychydig o'i hanes ydyw'r ‘
Vita Samsonis
' a ysgrifennwyd yn
Dol
,
Llydaw
,
c.
610
, lle y dywedir i'r
Samson
ieuanc gael ei anfon gan ei rieni i ysgol ‘meistr enwog ymhlith y
Prydeinwyr
a elwid
Eltut
.' Dywedir wrthym hefyd i
Eltut
fod yn ddisgybl
S.
Garmon
,
Auxerre
, a'i fod ‘y
Prydeiniwr
mwyaf ei wybodaeth yn yr Ysgrythurau, yr
Hen Destament
a'r
Testament Newydd
, ac ymhob cangen o athroniaeth (gwybodaeth) — barddoniaeth a rheitheg, gramadeg a rhifyddeg; yr oedd yn hynod am ei ddoethineb a chanddo
allu i ragfynegi digwyddiadau i ddyfod
.' Oddi wrth gyfeiriadau ym mucheddau saint eraill a ysgrifennwyd
gryn lawer yn ddiweddarach ac o astudio'r ‘
Vita Iltuti
' ei hunan gellir casglu mai yn
Llanilltud Fawr
ym
Mro Morgannwg
yr oedd yr ysgol enwog hon ac y bu personau enwog eraill — megis
Gildas
,
S.
Pawl Aurelian
, a
Dewi Sant
— yn ddisgyblion i
Sant
Illtud
. Yn yr un modd, dywedir wrthym mewn cofnodion diweddarach fod yr
athro
mawr yn
Llydawr
o ran ei enedigaeth a bod ei rieni o dras brenhinol. Y mae'n bosibl, serch hynny, y gellir anwybyddu'r holl dystiolaethau diweddar a chanfod yn yr ychydig eiriau cynhwysfawr sydd yn y ‘
Vita Samsonis
' ddarlun gweddol gywir o
Brydeiniwr
diwylliedig yn byw yn y cyfnod a ddilynodd hwnnw pan giliasai galluoedd
Rhufain
o'r gorllewin ond a etifeddasai ryw gymaint, o leiaf, o'r ddysg glasurol, ynghyd â chyfran o ddysg yr offeiriadaeth frodorol — a gwybodaeth o
Gristionogaeth
a'i llenyddiaeth wedi ei hychwanegu at y rheini.
Y mae
ysgolheigion
heddiw yn cydnabod bod yn rhaid dadansoddi enwau'r eglwysi ac astudio enwau lleoedd yn yr ardaloedd y cysylltir y seintiau
Celtig
â hwynt ochr yn ochr ag astudio'r dogfennau ysgrifenedig sydd yn proffesu adrodd hanes bywyd y seintiau hynny. Y mae'r hen eglwysi sydd yn arddel enw
S.
Illtud
i'w cael, gan mwyaf, yn
ne-ddwyrain Cymru
, yn enwedig yn
sir Frycheiniog
,
sir Forgannwg
, a
Gŵyr
. Y mae traddodiadau llachar amdano yn y parthau hyn a'n galluoga ni i gredu nad o
Lydaw Cyfandir Ewrop
y daeth eithr o
Lydaw Cymru
. Fel amryw o'i gydoeswyr ymddengys iddo drafaelio llawer ar y ffyrdd dros y môr tua'r gorllewin, sef y ffyrdd hynny a ddaeth i fri unwaith yn rhagor wedi i awdurdod
Rhufain
gilio i ffwrdd. Hyn sydd yn esbonio cyflwyniad
Llanelltyd
gerllaw
Dolgellau
ac arddeliadau yn hen esgobaethau
Leon
,
Treguier
, a
Vannes
yn
Llydaw'r Cyfandir
.
Llyfryddiaeth:
-
G. H. Doble
,
Saint Iltut
, Caerdydd, 1944
(Cardiff,
1944)
;
-
The Lives of the British Saints
, iii, 303-17;
-
E. G. Bowen
, ‘The Settlements of the Celtic Saints in South Wales,' yn
Antiquity
,
Rhagfyr 1945
, 175 ff.
Awdur:
Yr Athro Emrys George Bowen, M.A., F.S.A., (1900-83), Aberystwyth