Bu tad Angharad farw tua 1331 ( J. H. Davies , Trans. Cymm. 1907 , 68), ac mewn holiad cyfreithiol ar yr achlysur, tyngwyd fod ei etifedd Angharad yn 32 oed; yn 1333 , tyngwyd mai 40 oed oedd hi! Ganed hi felly un ai yn 1293 neu 1299 , a gellir rhoi geni Ifor tua 1313 neu 1319 , y fan gyntaf. Byddai yn ei flodau oddeutu 1340-60 . Gwyddys i'w frawd hynaf, Morgan , farw cyn 1384 ( Clark , Limbus Patrum , 310), ond nid oes sicrwydd am adeg marw Ifor na Nest ei wraig. Rhodder tua 1380 fel amcan yn unig. Yn argraffiad Pughe o weithiau Dafydd ap Gwilym , 1789 , printiwyd pedwar cywydd i Ifor Hael a thair awdl iddo, un ohonynt yn farwnad iddo ef a Nest . Nid yw awduriaeth yr awdl hon, fodd bynnag, y tu hwnt i amheuaeth, canys barnai Lewis Glyn Cothi yn y 15fed g. i Ddafydd farw o flaen ei noddwr : ‘ Aeth Dafydd gwawdydd drwy gôr / I nefoedd o flaen Ifor. ' Gw. ymhellach Williams a Roberts , Cywyddau Dafydd ap Gwilym , 1914 , xvii-xx. Ar Basaleg , gw. B.B.C.S. , vii, 277.
Athro-Emeritus Syr Ifor Williams, D.Litt., Ll.D., F.B.A., F.S.A., (1881-1965), Pontlyfni