IFOR BACH
(
fl.
1158
) —
IFOR
yn y Brutiau,
IFOR AP
yn achau'r
16eg g.
a'r
17eg g.
—
arglwydd Senghenydd
,
‘arglwyddiaeth ddibynnol' ar arglwyddiaeth
Morgannwg
ac yn cynnwys yr ardal fynyddig yn ymestyn o
Aberhonddu
yn y gogledd, crib
Cefn On
yn y de,
afon Taf
yn y gorllewin, ac
afon Rhymni
yn y dwyrain. Yn
1158
ymosododd ar
Morgan ab Owain
o
Wynllwg
a
Chaerlleon-ar-Wysg
a'i ladd ef a'r ‘
bardd
gorau,'
Gwrgant ap Rhys
. Cofir amdano yn arbennig oblegid ei ymosodiad sydyn ym mherfeddion nos ar
gastell Caerdydd
yn yr un flwyddyn, a mynd â
William
,
iarll Gloucester
,
Hawys
ei wraig, a'u mab
Robert
i'w amddiffynfeydd coediog ef ei hun, a gwrthod eu rhyddhau nes i
William
ddychwelyd y tiroedd a ladratasai oddi arno a rhoi iddo diroedd ychwanegol yn iawndal. Priododd
Nest
, chwaer (medd ‘
Brut y Saeson
') yr
Arglwydd Rhys
. Dilynwyd ef
cyn 1170
gan ei fab
Gruffydd
.
Llyfryddiaeth:
-
Giraldi Cambrensis Opera
. Rolls Series,
1861–91
, vi, 63;
-
‘
Brut y Tywysogion
,'
sub anno
1157
;
-
‘Brut y Saeson,'
sub anno
1175
;
-
The Myvyrian Archaiology of Wales
, , a
,
1801–7; arg. arall, 1870
, 682;
-
‘
Annales Margam
,'
sub anno
1158
;
-
G. T. Clark
,
Cartae et Alia Munimenta quae ad Dominium de
Glamorgan pertinent
. Ail arg., 1910
, i, 159;
-
A History of Wales
, 507-8;
-
E. L. Chappell
,
Old Whitchurch the story of a Glamorgan
parish
, Caerdydd, 1945
, 9, 17;
-
A Book of Glamorganshires Antiquities,
1578
, 1887
(ed.
J. A. Corbett
), 54-5, 107;
-
Heraldic Visitations of Wales and Part of
the Marches
, 1846
, i, 245;
-
Llawysgrifau Ford
(
Cardiff Manuscripts
5, 6), 270, 491;
-
Llawysgrif Tonn yn Llyfrgell Dinas
Caerdydd
(
Cardiff Manuscripts
2, 136), 175, 216;
-
Llawysgrif Wilkins
(
Cardiff Manuscript
3.464), 103.
Awdur:
Arthur John Richard, M.A., Caerdydd