IEUAN RUDD
(
fl.
1470
),
bardd
o
Forgannwg
a ganai yn
ail hanner y 15fed g.
;
Ceir dau gywydd o'i waith, y naill i neithior
Syr
Rhys ap Tomas
a
Sioned
, merch
Tomas
Mathau
o
Radur
, a'r llall i'r paderau main crisial. Cyfeirir ato hefyd mewn cywydd a ganodd
Llywelyn Goch y Dant
c.
1470
yn gwahodd
Hywel ap Dafydd ab Ieuan ap Rhys
i ymweled â
Thir Iarll
a'r cyffiniau, lle y disgrifir ef fel gŵr ‘o
Lyn Rhoddne
wlad' — y cyntaf o feirdd y
Glyn
hwnnw, cyn belled ag y gwyddom. Dengys yr ail gywydd a nodwyd uchod fod ganddo gryn ddawn i ddyfalu.
Llyfryddiaeth:
-
G. J. Williams
,
Traddodiad Llenyddol Morgannwg
,
1948
,
1948
, 36, 38-9.
Awdur:
Athro-Emeritus Griffith John Williams, M.A., (1892-1963),
Gwaelod-y-garth, Caerdydd