IEUAN (IFAN) o GARNO (Syr) (fl. c. 1530-70), bardd ac offeiriad o Garno yn Sir Drefaldwyn;

Enw: Ieuan (Ifan) O Garno
Plentyn: Owain Gwynedd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd ac offeiriad
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

Dywedir yn Jesus College MS. 18 (30) a NLW MS 1559B (664) ei fod yn dad i'r bardd Owain Gwynedd. Cadwyd peth o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau, ac yn ei phlith gywyddau ac englynion ymryson i'r bardd Huw Arwystl, cywyddau serch, a nifer o englynion; ymhlith yr olaf ceir dau a gyfansoddodd y bardd pan gludwyd ei lyfrau a rhan o'i eiddo i ffwrdd (ar achlysur sydd bellach yn aneglur).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.