Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



IEUAN MÔN (neu IEUAN MÔN HEN ) ( fl. c. 1460-80 ), bardd ; brodor o Fôn . Ni wyddys dim o hanes ei fywyd, ond cadwyd o leiaf ddwy enghraifft o'i waith mewn llawysgrifau, sef cywydd i ofyn cymhortha ym Môn pan oedd y bardd yn dlawd ( B.M. Add. MS. 14882 (119) , a Brogyntyn MS. 4 (112) , a chywydd marwnad i'r bardd Rhobin Ddu ( Cardiff MSS. 7 (758), a 47 (195) ).

Llyfryddiaeth:

  • J. Davies , Antiquæ linguæ Britannicæ et linguæ Latinæ, dictionarium duplex , 1632 .

Awdur:

Miss Ray Looker, (Mrs Ray Morgan), Caerdydd / Rhymni