IEUAN LLAFAR (fl. c. 1594-1610), bardd

Enw: Ieuan Llafar
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

Brodor, y mae'n debyg, o Glyn Ceiriog, sir Ddinbych. Ni wyddys dim o'i hanes, ond cadwyd nifer o gywyddau ac englynion a gyansoddodd rhwng tua 1594 a 1610. Canodd i foneddigion ei gyfnod yng Ngogledd Cymru, ac yn eu plith Owain Holant o Blas Berw (Môn), Hwmffrai ap Huw o'r Werclys, Rhobert Wyn o'r Foelas, Edwart ap Dafydd o'r Rhiwlas, Edwart ap Morus o Lansilin, Owain Bruwtwn o Fwras, Huw Morus ab Ieuan o'r Cefn Hir, a Sion Eutun o Coed Llai. Ceir ei farddoniaeth yn y llawysgrifau canlynol: B.M. Add. MS. 14879, Brogyntyn MS. 3, Cardiff MS. 12, Cwrtmawr MS 21B , Cwrtmawr MS 127B , Cwrtmawr MS 207B , Jesus Coll. MS. 15, NLW MS 278B , Peniarth MS 72 , Peniarth MS 81 , Peniarth MS 84 , Peniarth MS 87 , Peniarth MS 93 .

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.