IEUAN BRYDYDD HIR (Yr HYNAF) (fl. c. 1450), bardd

Enw: Ieuan Brydydd Hir
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

dywedir ei fod yn frodor o Ardudwy yn Sir Feirionnydd. Ni wyddys dim pendant o'i hanes, ond cadwyd llawer o'i waith mewn llawysgrifau, ac argraffwyd o leiaf ddau o'i gywyddau. Ymhlith ei farddoniaeth ceir awdlau i Dduw, cywydd i Dduw a'r Forwyn Fair, cywydd i Wenfrewi S., cywydd a wnaeth y bardd yn ei henaint, cywydd i ofyn tarw, a dau gywydd ymryson â'r bardd Tudur Penllyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.