IEUAN GETHIN ap IEUAN ap LLEISION
(
fl.
c.
1450
),
bardd, uchelwr
o
Faglan
yn
sir Forgannwg
, ac un o ddisgynyddion llwyth
Caradog ab Iestyn ap Gwrgant
; yn ôl rhai
arwyddfeirdd
, e.e.
Gruffudd Hiraethog
yn
Pen. MS. 178, i (43)
, priododd â merch
Tomas ab Ifor Hael
. Croesewid
beirdd
y Gogledd a Deheubarth i'w lys ym
Maglan
, a chafwyd mewn llawysgrifau ddau gywydd iddo gan
feirdd
ei gyfnod, sef un gan
Ieuan Ddu ap Dafydd ab Owain
, a marwnad gan
Iorwerth Fynglwyd
. Cadwyd llawer o'i farddoniaeth, ac yn ei phlith gywydd i
Owain Tudur
o
Benmynydd
, a gyfansoddwyd pan garcharwyd ef yn
Newgate
, cywydd marwnad i blant y
bardd
sydd hefyd yn ddychan i'r
nodau
a'u lladdodd, cywydd i'w fab, ac awdl farwnad i un o'i ferched. Ymddengys mai ffug yw hanes
‘
Iolo Morganwg
'
am
Ieuan
, sef amdano'n ymladd o blaid
Owain Glyndŵr
ym
Morgannwg
, yn gorfod ffoi i
Fôn
, a chael dychwelyd ymhen amser wedi talu ohono ddirwy.
Llyfryddiaeth:
-
Jones
a
Lewis
,
Mynegai i Farddoniaeth y Llawysgrifau
, a
,
1928
;
-
‘Dictionary of Welsh Biography.’ 27
cyf., N.L.W. MSS. 9251–77
;
-
Cymru yn hanesyddol, parthedegol, a
bywgraphyddol
, 1875
;
-
J. Davies
,
Antiquæ linguæ Britannicæ et linguæ Latinæ,
dictionarium duplex
, 1632
;
-
Iolo Manuscripts. A selection of Ancient
Welsh Manuscripts…from the collection made by Edward
Williams, Iolo Morganwg
, 1848
;
-
G. J. Williams
,
Iolo Morganwg a Chywyddau'r
Ychwanegiad
, 1926
,
1926, 111
;
-
G. J. Williams
,
Traddodiad Llenyddol Morgannwg
,
1948
;
-
J. Morgan Williams
, ‘The Works of some Fifteenth Century Glamorgan Bards' (traethawd M.A. Prifysgol Cymru,
1923
).
Awdur:
Miss Ray Looker, (Mrs Ray Morgan), Caerdydd / Rhymni