IEUAN DYFI
(
1461?
-
1500
)
.
Nid oes dim ar gael ynghylch hanes bywyd y
bardd
hwn, ac ychydig, ysywaeth, yw'r ffeithiau a geir o'i ganu ef ei hun.
Prydydd
o
Aberdyfi
ydoedd a flodeuai
tua 1490
, yn ôl
Dr.
John
Davies
o
Fallwyd
.
Bardd serch
yn anad dim ydoedd, yn canu i ferch o'r enw
Anni Goch
. Canodd gywydd i brofi cymaint twyll gwragedd drwy'r oesoedd, a chan amled copïau ohono mewn llawysgrifau gwelir iddo ennill cryn boblogrwydd ymhlith
beirdd
a
chopïwyr
y cyfnod. Mynnodd
Gwerful Mechain
[q.v.]
ateb iddo â'i chabl miniog.
Llyfryddiaeth:
-
Leslie Harris
, ‘Huw Cae Llwyd ac Eraill' (traethawd M.A. Prifysgol Cymru,
1933
).
Awdur:
Leslie Harries, M.A., (1901-88), Llaneurgain, Sir y Fflint