Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



IEUAN DEULWYN ( fl. c. 1460 ), bardd ; brodor o Gydweli , sir Gaerfyrddin . Cadwyd llawer o'i waith mewn llawysgrifau, y rhan fwyaf ohono yn gywyddau i gylch eang o foneddigion cyfoes. Yn eu plith ceir rhai i Wiliam , iarll Penfro , a'i frawd Syr Rhisiart Herbert , a laddwyd ym mrwydr Banbury ( 1469 ), ac i fab ifanc Syr Rhisiart , i Dr. Siôn Morgan , esgob Tyddewi , Wiliam Siôn o Lanegwad , Dafydd Llwyd ap Gwilym o Gastell Hywel , Llywelyn ap Dafydd ab Einion o Lanllawddog a'i deulu, Siôn ap Dafydd o'r Llys Newydd , a Siôn Lewys a'i dad o Brysaddfed ym Môn . Canodd gywyddau crefyddol a serch, a hefyd gywydd ymryson i Bedo Brwynllys . Yr oedd Ieuan yn bleidydd poeth i wŷr York , ac un o'r pethau y mae'n ei ddannod i Bedo Brwynllys yw ei fod ‘yn chwarae'r ffon ddwybig yn y mater hwn. Cedwir cywydd marwnad Hywel Rheinallt (neu Hywel ap D. ab Ieuan ap Rhys , yn ôl un llawysgrif — gw. Mynegai ) iddo ef a'r tri bardd, Dafydd Nanmor , Deio ab Ieuan Du , a Tudur Penllyn ; cadwyd hefyd gywydd marwnad Tudur Aled i D. ab Edmwnd , Rhys Nanmor , a Ieuan Deulwyn .

Llyfryddiaeth:

  • Jones a Lewis , Mynegai i Farddoniaeth y Llawysgrifau , a , 1928 ;
  • Llawysgrif Bodewryd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth . 1 (248);
  • Llawysgrifau Brogyntyn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. 1 (191), 2 (377-83, 534-5), 6 (211b, 224b);
  • Llawysgrifau Cwrtmawr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth . 129 (121, 193, 214), 448 (114);
  • Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 16 (53), 552 (107), 727 (26), 728 (45), 832 (14), 836 (44), 1246 (165, 409), 1553 (126, 150, 257), 2026 (111b), 4710 (259, 267), 5269 (169, 210, 214), 5272 (86), 6511 (181-8, 196b, 277b). 6681 (454), 10893 (77, 90), 13063 (59b, 75b), 13068 (119), 13070 (183), 13079 (56), 13167 (161, 163);
  • Swansea Manuscript . 1 (324);
  • Ifor Williams , Casgliad o waith Ieuan Deulwyn o wahanol ysgriflyfrau , Bangor, 1909 , 1909 ;
  • Rhys Jones , Gorchestion Beirdd Cymru , 1773, 1864 , 1773 ;
  • Cymru yn hanesyddol, parthedegol, a bywgraphyddol , 1875 ;
  • J. Davies , Antiquæ linguæ Britannicæ et linguæ Latinæ, dictionarium duplex , 1632 ;
  • G. J. Williams , Traddodiad Llenyddol Morgannwg , 1948 (mynegai).

Awdur:

Miss Ray Looker, (Mrs Ray Morgan), Caerdydd / Rhymni