IEUAN BRECHFA c.1430 - 1500, bardd ac achyddwr

Enw: Ieuan Brechfa
Dyddiad geni: c.1430
Dyddiad marw: 1500
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd ac achyddwr
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

Brodor o Brechfa yn Sir Gaerfyrddin. Ni wyddys unrhyw fanylion am ei fywyd, ond cadwyd peth o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau. Yn ôl pob tebyg y mae rhan o Peniarth MS 131 (199-308), llawysgrif achau, yn llaw'r bardd. Ceir cyfeiriadau mewn gwahanol lawysgrifau eraill hefyd at ei lyfr achau, sef yn Peniarth MS 128 , Peniarth MS 132 , Peniarth MS 133 , Peniarth MS 139i , Peniarth MS 139ii Peniarth MS 139iii , Peniarth MS 140 , Peniarth MS 176 (gweler R.W.M.). Ceir brut a briodolir iddo yn y The Myvyrian Archaiology of Wales . Canodd Iorwerth Fynglwyd osteg o englynion yn haeru i'r 'chwal' lyncu Ieuan pan oedd ym mhriodas merch Syr Rhys ap Tomas.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.