Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



IEUAN ap LLYWELYN FYCHAN ( fl. c. 1460-90 ), bardd ; aelod o deulu'r Llannerch , Dyffryn Clwyd , a thad y bardd Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan [q.v.] . Cadwyd peth o'i waith, yn cynnwys cywyddau brud a serch.

Llyfryddiaeth:

  • Jones a Lewis , Mynegai i Farddoniaeth y Llawysgrifau , a , 1928 ;
  • Cymru yn hanesyddol, parthedegol, a bywgraphyddol , 1875 ;
  • J. Davies , Antiquæ linguæ Britannicæ et linguæ Latinæ, dictionarium duplex , 1632 .

Awdur:

Miss Ray Looker, (Mrs Ray Morgan), Caerdydd / Rhymni

Atodiadau a chywiriadau:

IEUAN ap LLYWELYN FYCHAN ( Bywg. , 386) Bu f. 1532 , gw. o dan GRIFFITH o'r Garn .