IEUAN ap HYWEL SWRDWAL
(
fl.
1430-80
),
bardd
;
mab i'r
bardd
Hywel Swrdwal
[q.v.]
. Cysylltir y tad a'r mab â
Chydewain
ac â'r
Drenewydd
; dywedir iddynt fyw hefyd ym
Machynlleth
. Ymhlith y cerddi a briodolir i
Ieuan
ceir awdl i'r
Forwyn Fair
yn
Saesneg
ac mewn cynghanedd ac orgraff
Cymraeg
— sef ‘
Owdyl i Fair a wnaeth kymbro yn Rhudychen …
', yn dechrau ‘
O meichti ladi our leding tw haf
.' Ceir marwnadau iddo gan
Hywel ap Dafydd ap Ieuan ap Rhys
,
Llewelyn Goch y Dant
, a
Gruffydd ap Dafydd Fychan
. Y mae traddodiad iddo ef, fel ei dad,
ysgrifennu hanes Cymru
o amser
Cadwaladr
hyd amser
Harri
VI
, ond nid yw'r gwaith ar gael.
Llyfryddiaeth:
-
Oxford Dictionary of National
Biography
;
-
R. Williams
,
Montgomeryshire Worthies
, ail arg.,
1894
;
-
Llawysgrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru
9261.
Awdur:
Elwyn Evans, M.A., Aberystwyth