IEUAN ap BEDO GWYN
, neu
IEUAN BEDO GWYN
(
fl.
c.
1530-90?
),
bardd a pherchennog stad
Llysyn
(
Llanerfyl
,
sir Drefaldwyn
) cyn i deulu
Herbert
ei phrynu; disgynnydd un o ganghennau ieuaf teulu'r
Neuadd Wen
(stad gyfagos), a disgynnydd felly i
Faredudd
, brawd
Gruffudd ap Cynan
. Nid erys ond ychydig o'i waith; yn ei blith ceir cywydd a gyfansoddwyd yn
1538
i
Ddafydd ab Ieuan Llwyd
o
Nantmynach
.
Llyfryddiaeth:
-
Llawysgrif Brogyntyn yn Llyfrgell Genedlaethol
Cymru, Aberystwyth.
2;
-
Cardiff Manuscript
84;
-
Llawysgrif Cwrtmawr yn Llyfrgell Genedlaethol
Cymru
12;
-
Jesus College Manuscript yn Llyfrgell Bodleian,
Rhydychen
17;
-
Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol
Cymru
872, 5262;
-
‘Dictionary of Welsh Biography.’ 27
cyf., N.L.W. MSS. 9251–77
;
-
Cymru yn hanesyddol, parthedegol, a
bywgraphyddol
, 1875
;
-
J. Davies
,
Antiquæ linguæ Britannicæ et linguæ Latinæ,
dictionarium duplex
, 1632
;
-
Collections Historical and Archaeological
relating to Montgomeryshire
, xvi, 82.
Awdur:
Miss Ray Looker, (Mrs Ray Morgan), Caerdydd / Rhymni