IAGO ab IDWAL FOEL
(
fl.
942-79
)
;
Gyrrwyd ef o
Wynedd
gyda'i frawd,
Ieuaf
[q.v.]
, gan
Hywel Dda
pan fu
Idwal Foel
f., yn
942
, eithr cawsant ddychwelyd pan fu
Hywel
f. yn
950
. Dilynodd rhyfel cartrefol a gorchfygwyd
Ieuaf
yn
969
. Carcharwyd
Iago
yn ei dro yn
979
gan
Hywel
[q.v.]
, mab
Ieuaf
, a daeth
Hywel
yn
frenin Gwynedd
.
Iago
yw'r unig
Gymro
y gellir bod yn weddol sicr ei fod gyda'r isbenaethiaid eraill a blygodd lin i
Edgar
, yng
Nghaer
, yn
973
— amgylchiad a ysbrydolodd yr hanes am siwrnai orchfygol
Edgar
ar
Ddyfrdwy
. Ni wyddys ym mha flwyddyn y bu f. Yn yr achau enwir mab iddo,
Cystennin
, eithr ni bu i hwnnw deulu.
Awdur:
Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964),
Aberystwyth