HYWEL ap LLYWELYN ap MAREDUDD (fl. c. 1500?), bardd

Enw: Hywel ap Llywelyn ap Maredudd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

Brodor o Gyfeiliog, plwyf yn sir Ddinbych. Cadwyd dwy enghraifft o'i waith mewn llawysgrifau, sef cywyddau marwnad i aelodau teulu bonheddig Carno a Manafon, Sir Drefaldwyn. Ceir Gruffudd Hiraethog mewn llawysgrif achau ganddo (Peniarth MS 176 ) yn cydnabod gwaith tebyg o eiddo Hywel, ond ni wyddys heddiw am unrhyw enghraifft o waith achyddol y bardd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.