Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



HYWEL HIR ( fl. 1600-40 ), bardd, a gŵr mewn urddau eglwysig y mae'n debyg . Ni wyddys unrhyw fanylion amdano, ond cadwyd peth o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau, ac yn ei phlith un cywydd crefyddol. Ceir ei waith yn y llawysgrifau canlynol: Bodewryd MS. 1 , B.M. Add. MS. 14906 , Brogyntyn MS. 6 , Cardiff MS. 84 , N.L.W. MSS. 675, 1559 .

Llyfryddiaeth:

  • ‘Dictionary of Welsh Biography.’ 27 cyf., N.L.W. MSS. 9251–77 ;
  • Cymru yn hanesyddol, parthedegol, a bywgraphyddol , 1875 ;
  • Eminent Welshmen , 1908 ;
  • William Owen Pughe , The Cambrian Biography , 1803 .

Awdur:

Miss Ray Looker, (Mrs Ray Morgan), Caerdydd / Rhymni