Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



HYWEL CILAN ( fl. tua diwedd y 15fed g. ), bardd y cadwyd llawer o'i waith mewn llawysgrifau. Ymddengys mai brodor o Edeirnion ydoedd; dywedir yn Cwrtmawr MS. 454 (140) mai gŵr o Landderfel oedd; yn Cymru (O.J.) dywedir mai ef oedd perchennog Llawr y Cilan yn Llandrillo — a dyma esboniad tebygol ar enw'r bardd . Canu traddodiadol i bendefigion Gogledd Cymru yw'r rhan fwyaf o'i farddoniaeth. Ymhlith y rheini ceir aelodau teuluoedd Presaddfed , Llwydiarth ( Môn) , Deuddwr , Rhûg , Moelyrch , a'r Rhiwlas .

Llyfryddiaeth:

  • Jones a Lewis , Mynegai i Farddoniaeth y Llawysgrifau , a , 1928 ;
  • Cymru yn hanesyddol, parthedegol, a bywgraphyddol , 1875 ;
  • J. Davies , Antiquæ linguæ Britannicæ et linguæ Latinæ, dictionarium duplex , 1632 ;
  • Eminent Welshmen , 1908 ;
  • William Owen Pughe , The Cambrian Biography , 1803 .

Awdur:

Miss Ray Looker, (Mrs Ray Morgan), Caerdydd / Rhymni