HOWEL ap GRUFFYDD, neu Syr HYWEL y FWYALL (bu farw c. 1381),

Enw: Howel ap Gruffydd
Ffugenw: Syr Hywel Y Fwyall
Dyddiad marw: c. 1381
Priod: Tanglwst ferch David Fychan ap Howel
Plentyn: Gruffydd ap Hywel
Rhiant: Angharad wraig Gruffydd ap Howel
Rhiant: Gruffydd ab Howel
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Milwrol; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Thomas Jones Pierce

mab Gruffydd ap Howel (yn disgyn o Collwyn), Bronyfoel, yn nhrefgordd Ystumllyn a phlwyf Ynyscynhaiarn, Eifionydd, ac Angharad ferch Tegwared y Bais Wen. Yr oedd ei nain o ochr ei dad yn ŵyres i Ednyfed Fychan ac yn chwaer i Howel ap Gruffydd (Hywel y Pedolau). Mab iau ydoedd. Enillodd enw iddo'i hun yn rhyfeloedd Edward III yn Ffrainc. Ni ellir, fodd bynnag, gael tystiolaeth i'r traddodiad iddo 'ennill ei yspardynau' ym mrwydr Poitiers. Gan ei fod flwyddyn cyn hynny yn derbyn tâl fel marchog yn y gwasanaeth brenhinol ymddengys fel pe bai wir y traddodiad arall ei fod yn bennaeth ar gorff o Gymry ym mrwydr Crecy (1346); bu ei gymorth i ennill y frwydr yn fawr, a gwnaethpwyd ef yn farchog-banerog ('knight-banneret') ar faes y gad, am ei wrhydri. Nid oes ddadl nad oedd hefyd ym mrwydr Poitiers er nad oes sail i'r gred iddo gymryd brenin y Ffrancwyr yn garcharor; gwnaeth ei fwyall-ryfel enwog argraff ddofn ar yr amgylchiad hwnnw. Dywedir i Edward y Tywysog Du roddi lle o anrhydedd i'r erfyn yn y babell frenhinol, iddo orchymyn i fwydydd gael eu dodi ger ei bron bob dydd, ac i'r bwydydd hynny yn ddiweddarach gael eu rhannu fel elusen. Serch i'r arferiad gael ei gychwyn efallai, yn y dechrau, mewn dull hanner-cellweirus, fe ddaeth yn seremoni draddodiadol, a dywed Syr John Wynn, Gwydir, na ddarfu am y seremoni hyd adeg Elisabeth.

Yr oedd Howel yn parhau yng ngwasanaeth y brenin yn 1359. Tua'r flwyddyn honno gwnaethpwyd ef yn gwnstabl castell Cricieth, un o lu o swyddi proffidiol a roddwyd iddo gan y Goron; yng nghastell Cricieth y treuliodd ei flynyddoedd olaf. Ceir disgrifiad byw o fywyd yn y castell yn amser Howel gan Iolo Goch. Gwraig Howel oedd Tanglwst, merch i ŵr o'r enw David Fychan ap Howel. Bu iddo un mab, Gruffydd, na adawodd unrhyw etifeddion uniongyrchol, eithr yr oedd llawer o hen deuluoedd Eifionydd yn olrhain eu hach i Einion, brawd hŷn i Syr Hywel.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.