Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



HYWEL ap DAFYDD LLWYD ab Y GOF ( fl. c. 1500 ), bardd ; ni wyddys dim o'i hanes, ond cadwyd peth o'i waith mewn llawysgrifau, sef cywyddau serch a chywydd marwnad i'r bardd Dafydd Llwyd ap Llywelyn ap Gruffudd .

Llyfryddiaeth:

  • Jones a Lewis , Mynegai i Farddoniaeth y Llawysgrifau , a , 1928 ;
  • ymddengys bod y dyddiadau a roir iddo yn Cymru yn hanesyddol, parthedegol, a bywgraphyddol , 1875 , William Owen Pughe , The Cambrian Biography , 1803 , ac Eminent Welshmen , 1908 , yn rhy ddiweddar.

Awdur:

Miss Ray Looker, (Mrs Ray Morgan), Caerdydd / Rhymni