HYWEL ap DAFYDD ap IEUAN ap RHYS (HYWEL DAFI o Raglan, (fl. c. 1450-80), bardd

Enw: Hywel ap Dafydd ap Ieuan ap Rhys
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

HYWEL DAFI o Raglan, yn ôl Peniarth MS 101 (262), bardd y ceir swm mawr o'i waith mewn llawysgrifau, a hwnnw'n cynnwys peth canu crefyddol a serch, a llawer o ganu traddodiadol i bendefigion ei gyfnod yn Neheudir Cymru, e.e. Gruffudd ap Nicolas o Ddinefwr, Phylip ap Tomas o Langoed yn sir Frycheiniog, Rhys ap Siancyn o Lyn Nedd, ac aelodau teulu Herbertiaid Penfro a Rhaglan. Ymddengys oddi wrth un o'r ddau ymryson a ganwyd rhyngddo a Guto'r Glyn ei fod yn fardd teulu yn Rhaglan. Canwyd ymrysonau eraill rhyngddo a Bedo Brwynllys, a hefyd Gruffudd ap Dafydd Fychan a Llywelyn Goch y Dant. Dywedir gan Edward Jones (ar dystiolaeth Rhys Cain, y mae'n debyg) ei fod yn M.A., yn awdur hanes Prydain yn Lladin a hanes Cymru yn Gymraeg, a bod ei lawysgrifau yn dda a gwerthfawr. Ni ddaethpwyd o hyd i'r un ohonynt eto. Yn ôl The Cambrian Biography, Cymru (O.J.), Blackwell, ac Enwogion Cymru: a Biographical Dictionary of Eminent Welshmen , yr oedd Hywel yn ŵr o Aberdâr, ond nid oes unrhyw brawf o hynny.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.