HYWEL AERDDREN (neu AEDDREN neu AEDDREM) (fl. c. 1540-70?), bardd

Enw: Hywel Aerddren (Neu Aeddren Neu Aeddrem)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

Ni wyddys unrhyw fanylion am ei fywyd. Yn ôl Llanstephan MS 15 (44) a Cwrtmawr MS 5B (i-ii) (441), yr oedd lle o'r enw Aeddren ym mhlwyf Llangwm, sir Ddinbych, lle y bu Bedo Aeddren yn byw. Efallai fod Hywel hefyd yn frodor o'r un man. Ni wyddys a oedd perthynas rhyngddo a Bedo. Ceir ychydig o'i gywyddau mewn llawysgrifau, ond ni ellir ei ddyddio'n fanwl oddi wrth y rheini.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.