HYWEL ab OWAIN GWYNEDD (bu farw 1170), milwr a bardd

Enw: Hywel ab Owain Gwynedd
Dyddiad marw: 1170
Rhiant: Pyfog
Rhiant: Owain ap Gruffydd ap Cynan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: milwr a bardd
Maes gweithgaredd: Milwrol; Barddoniaeth
Awdur: Arthur James Roderick

Mab gordderch Owain a Gwyddeles o'r enw Pyfog. Cymerodd Hywel ran amlwg yn y gwaith o reoli Ceredigion, a feddiannwyd gan dŷ Gwynedd yn 1137. Rhoddodd ei dad dde Ceredigion yn ei ofal yn 1139. Yr oedd ymrafael byth a beunydd rhyngddo ef a'i ewythr Cadwaladr a feddiannai ogledd Ceredigion a Meirionnydd. Yn 1143 gyrrodd Hywel ei ewythr allan o Geredigion. Yn 1144 cymodwyd y ddau, ac adferwyd Cadwaladr i'w safle. Ofer oedd cais Hywel a'i hanner-brawd Cynan yn 1145 i gymryd castell Aberteifi, a arosasai yn nwylo'r Normaniaid. Yn 1146 ymunodd Hywel a Chadell o Ddeheubarth yn erbyn Normaniaid gorllewin Cymru; cymerasant gestyll Caerfyrddin, Llansteffan, a chastell Gwis (Wiston). Yn 1147 gyrrwyd Cadwaladr allan o Feirionnydd gan Hywel a Chynan. Pan drosglwyddodd Cadwaladr ogledd Ceredigion i'w fab Cadfan, ymosododd Hywel ar y diriogaeth honno, gan ddal Cadfan (1150) a chymryd meddiant o'r castell newydd yn Llanrhystud. Yn y cyfamser, yr oedd tywysogion Deheubarth, Cadell a'i frodyr, gwir berchenogion Ceredigion, wedi goresgyn y rhan ddeheuol; erbyn 1153 yr oeddynt wedi ailfeddiannu gogledd Ceredigion yn ychwaneg, a daeth gyrfa Hywel yn y parthau hyn i ben. Yn 1157 yr oedd Hywel gyda'i dad yn ymgyrch Maesglas (Basingwerk) yn erbyn Harri II. Yn 1159 ymunodd â llu Normanaidd o Gaerfyrddin yn erbyn yr Arglwydd Rhys, a oedd y pryd hwnnw'n gwrthryfela yn erbyn Harri II. Yn ôl pob golwg fe wnaeth hyn oherwydd i Owain Gwynedd ddymuno bod ar delerau da â'r Goron. O hynny ymlaen ychydig a wyddys am Hywel hyd ei farw mewn brwydr yn erbyn ei hanner-brodyr ger Pentraeth, Môn (1170), yn yr ymryson a ddilynodd farwolaeth Owain Gwynedd. Claddwyd Hywel ym Mangor.

Y mae'n debyg mai fel bardd yr adwaenir ef orau. Rhagorai yn ei ddydd fel bardd telynegol. Yn wahanol i feirdd proffesedig y llys, ni chyfyngwyd ef i destunau arbennig; canodd am serch ac am brydferthwch naturiol Gwynedd, ei fro enedigol. Wyth o'i gerddi sydd ar gael; fe'u hargraffwyd yn The Myvyrian Archaiology of Wales , i, 275-8

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.