Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



HWMFFRE ap HYWEL , neu HWMFFRE HYWEL ( fl. yn hanner cyntaf yr 17eg g. ), bardd ; brodor, y mae'n debyg, o rywle yng Ngogledd Cymru . Cadwyd peth o'i waith mewn llawysgrifau, yn cynnwys cywyddau a gyfansoddwyd i wahanol aelodau teulu Nannau , Corsygedol , Cefnamwlch , ac Egryn rhwng 1627 a 1644 . Ceir hefyd chwech englyn i ddiolch am ‘ffon badal’ (rhwyf). Ni chafwyd unrhyw fanylion am ei fywyd.

Llyfryddiaeth:

  • Llawysgrif Brogyntyn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. 5 (173);
  • Llawysgrif Cwrtmawr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru 129 (173);
  • Llawysgrif Llansteffan yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth 123 (199);
  • Llawysgrif Mostyn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth 165 (93, 108, 177);
  • Llawysgrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru 874 (117);
  • Llawysgrif Peniarth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru 97 (297).

Awdur:

Miss Ray Looker, (Mrs Ray Morgan), Caerdydd / Rhymni