HUWS, MORIEN MON (Morien Môn '; 1856 - 1932), bardd a llenor

Enw: Morien Mon Huws
Ffugenw: Morien Môn
Dyddiad geni: 1856
Dyddiad marw: 1932
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd yn Amlwch, sir Fôn, 10 Awst 1856, a bu yn ysgol Rhos-y-bol yn y sir honno pan oedd Syr John Rhys yn brifathro. Llwyddodd yn gynnar yn ei oes i ennill gwobrwyon mewn eisteddfodau, a dechreuodd bregethu pan oedd yn 17 oed. Ymfudodd i U.D.A. yn 1880 a daeth yn aelod o'r gymanfa Annibynnol yn Oneida County, New York, ac yn weinidog ar eglwys Peniel, Remsen, N.Y. Yn 1899 ymunodd â'r Methodistiaid Calfinaidd yng nghymanfa New York; yn 1911, fodd bynnag, dychwelodd at yr Annibynwyr a bu'n weinidog yn Pittston, Pa. Ysgrifennodd lawer i'r cylchgronau Cymreig Americanaidd ac i'r Drych. Bu farw 27 Tachwedd 1932 yn Stittsville, N.Y., a chladdwyd ef ym mynwent Fairfield gerllaw Remsen, N.Y.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.