HUW ap DAFYDD (fl. c. 1550-1628), bardd

Enw: Huw ap Dafydd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

Gan mai boneddigion Gogledd Cymru oedd gwrthrychau ei farddoniaeth mawl a marwnad, gellir tybio mai brodor o'r Gogledd oedd yntau (er bod Cambrian Biography, Cymru (O.J.), Enwogion Cymru: a Biographical Dictionary of Eminent Welshmen , a Blackwell yn rhoi ei gartref yn Euas, sir Henffordd). Cadwyd llawer o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau, yn cynnwys cywyddau i Hywel ap Sion ap Dafydd ab Ithel Fychan o Fryn Cynddel, Sion ap Hywel Fychan o Benllyn, Syr Rhoesier Salbri o Lyweni, Pyrs Salbri o Fachymbyd, Pyrs Gruffydd o'r Penrhyn, Lewys Owain, a Sion ab Elis Eutun o Riwabon.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.