HUW ap RHYS WYN (fl. c. 1550), bardd

Enw: Huw ap Rhys Wyn
Priod: Catrin ferch Lewys ab Owain ap Meurig
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Perchnogaeth Tir; Barddoniaeth; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Ray Looker

Aelod o deulu bonheddig Mysoglen, Llangeinwen, sir Fôn; gŵr Catrin ferch Lewys ab Owain ap Meurig o'r Frondeg, Llangaffo. Cadwyd peth o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau, ac yn ei phlith gywydd i ofyn cwch pysgota gan Thomas Glyn, Glynllifon, cywydd i henaint, a chywydd mwy anghyffredin ei destun, sef marwnad i'w hoff gi a elwid Bwrdi. Ceir hefyd ymryson rhyngddo â Rhydderch ap Rhisiart. Gwelir ei waith yn y llawysgrifau canlynol: Bodewryd MS 2B , Glyn Davies MS. 1, Llanstephan MS 118 , Llanstephan MS 125 , NLW MS 3056D , NLW MS 832E , NLW MS 9166B . Ceir cywydd moliant iddo gan Dafydd Alaw yn Peniarth MS 63 (132).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.