HUW LLŶN (fl. c. 1552-1594), bardd

Enw: Huw Llŷn
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

Brodor o Lŷn a raddiodd yn ddisgybl pencerddaidd cerdd dafod yn eisteddfod Caerwys yn 1568 (Peniarth MS 132 (59)). Efallai ei fod yn frawd i Wiliam Llŷn (NLW MS 1244D (28), NLW MS 1580B (308); Bulletin of the Board of Celtic Studies, ix, 112, etc.). Dywedir gan ' Myrddin Fardd,' J. E. Griffith, a J. C. Morrice mai'r boneddwr Huw ap Rhisiart ap Dafydd o Gefn Llanfair oedd Huw Llŷn. Gwyddys fod Huw ap Rhisiart hefyd yn fardd, ond nid oes unrhyw brawf mai'r un person oeddynt.

Cadwyd peth o farddoniaeth Huw Llŷn, ac yn ei phlith gerddi i Walter Devereux (iarll Essex), Henry Rowland (esgob Bangor), Simwnt Thelwal o Blas y Ward, ac i'r Deheuwyr Tomas Fychan (Pembre), Gruffudd Dwn (Ystrad Merthyr), Wiliam a Siors Owen (Henllys), a Sion Llwyd (Cilgwyn). Canwyd ymryson rhyngddo a Sion Mawddwy, ac un arall rhwng Wiliam Cynwal ac ef a'r pedwar bardd Wiliam Llŷn, Ieuan Tew, Sion Phylip, a Hywel Ceiriog.

Gwelir enghraifft o'i law yn Llanstephan MS 40 (149-56).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.