HUMPHREYS, RICHARD (1790 - 1863), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: Richard Humphreys
Dyddiad geni: 1790
Dyddiad marw: 1863
Priod: Humphreys
Priod: Ann Humphreys (née Griffith)
Plentyn: Elizabeth Thomas (née Humphreys)
Plentyn: Jennette Griffith Morgan (née Humphreys)
Rhiant: Humphrey Richard
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Edward Morgan Humphreys

Ganwyd ym Mehefin 1790, mab Humphrey Richard, Gwern y Cynyddion, Dyffryn Ardudwy. Symudodd ei dad i'r Faeldref yn yr un ardal tua 1800, ac yno y bu Richard Humphreys yn byw y rhan fwyaf o'i oes, yn amaethu a phregethu ac, am gyfnod, yn cadw siop yn y Dyffryn. Bu mewn ysgol yn Amwythig. Dechreuodd bregethu yn 1819 ac ordeiniwyd ef yn 1833, ond ni bu ganddo ofalaeth eglwysig ffurfiol. Yr oedd yn nodedig am ei synnwyr cyffredin a'i ffraethineb, a chymerodd ran amlwg yng ngwaith y cyfundeb, gyda'r mudiad dirwest, ac ynglŷn â mudiad addysg; yr oedd yn un o'r rhai a wahoddwyd i Lundain gan Syr Hugh Owen yn 1854 i drafod y posibilrwydd o gael prifysgol i Gymru. Ysgrifennodd i'r Traethodydd ac i'r Methodist, ac yr oedd yn gyfeillgar â 'Dewi Wyn' ac 'Eben Fardd.' Ni chymerodd ran amlwg iawn mewn gwleidyddiaeth, ond yr oedd yn un o'r rhai cyntaf ymhlith gweinidogion y Methodistiaid Calfinaidd i bleidio Rhyddfrydiaeth.

Priododd, 1822, Ann, merch Capten William Griffith, y Cei, Abermaw. Bu ganddynt ddwy ferch, un ohonynt, Jennette, yn briod â'r Parch. Edward Morgan, Dyffryn. Bu Mrs. Humphreys farw yn 1852, a phriododd Richard Humphreys â Mrs. Evans, Gwerniago, Pennal, yn 1858, aeth i Bennal i fyw, ac yno y bu farw, 15 Chwefror 1863; claddwyd ym mynwent capel y Dyffryn. Yr oedd un ferch o'r ail briodas, Elizabeth, a briododd y Parch. William Thomas, Llanrwst.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.