HUMPHREYS, RHOBERT (neu RHOBERT RHAGAT) (fl. c. 1720), bardd

Enw: Rhobert Humphreys
Ffugenw: Rhobert Rhagat
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

a brodor (y mae'n debyg) o'r Rhagad, ger Corwen yn Sir Feirionnydd. Cadwyd peth o'i waith mewn llawysgrifau, a hwnnw'n cynnwys cywyddau gofyn i Tomas Carter o Ginmel (sir Ddinbych) ac i Tomas Holant o Deirdan, ger Llanelian (sir Ddinbych), ac amrywiol englynion, yn cynnwys rhai o fawl i Siôn Rhydderch, yr argraffydd o Amwythig, dau uwch bedd Huw Morus, y bardd, a rhai o anghlod i Niwbwrch, sir Fôn. (Atebodd Evan Jones, a fuasai'n berson Niwbwrch, i'r rhai olaf hyn.) Ceir enghreifftiau o'i farddoniaeth yn y llawysgrifau canlynol: Cwrtmawr MS 206B , Cwrtmawr MS 463D ; NLW MS 276A , NLW MS 436B , NLW MS 783B , NLW MS 1238B: Barddoniaeth , NLW MS 1244D , NLW MS 1579C , NLW MS 1580B , NLW MS 1666B: Llyfr Silin , NLW MS 4697A , NLW MS 11993A , NLW MS 12449E . Ceir un pennill rhydd ganddo yn Llawysgrif Richard Morris o Gerddi (gol. T. H. Parry Williams ), 1931, 201.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.