HUMPHREYS, neu HUMPHREYS-DEVONPORT, Syr SALUSBURY PRYCE (1778 - 1845), is-lyngesydd

Enw: Salusbury Pryce Humphreys
Dyddiad geni: 1778
Dyddiad marw: 1845
Priod: Maria Humphreys (née Devonport)
Rhiant: Mary Humphreys (née Pryce)
Rhiant: Evan Humphreys
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: is-lyngesydd
Maes gweithgaredd: Milwrol
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd Tachwedd 1778 yn fab i Evan Humphreys, rheithor Trefaldwyn a Clungunford, a'i wraig Mary, ferch Salusbury Pryce a fu'n rheithor Meifod am 53 mlynedd. Yr unig reswm dros gofio'r morwr hwn yw mai efe, pan oedd yn gapten y Leopard yn 1807, a gydiodd yn y llong ryfel Americanaidd Chesapeake - digwyddiad a fu'n achos ffrae fawr rhwng y ddwy wlad, a'i ddiswyddo yntau dros dro. Yn ddiweddarach, dyrchafwyd ef yn is-lyngesydd ac yn 1834 yn farchog. Ar ôl ei ail briodas, â Maria Devonport o sir Gaerlleon, y cymerth ' Devonport ' (yn 1838) yn gyfenw ychwanegol. Bu farw 15 Tachwedd 1845.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.