HUMPHREYS
,
RICHARD MACHNO
(
1852
-
1904
),
gweinidog gyda'r Bedyddwyr
,
g.
14 Mawrth 1852
, mab i ŵr o
Helygen
a briododd ferch o
Dalybont
. Brawd iddo oedd
Benjamin
Humphreys
,
Felinfoel
[q.v.]
. Wedi treulio blynyddoedd ym mwyngloddiau
Talybont
, aeth i
Dylife
, lle y dechreuodd
bregethu
, eithr o lofa yn y
Gilfach Goch
,
Morgannwg
, yr aeth i
Goleg Llangollen
yn
1875
. Gweinidogaethodd yn
Siloam
,
Caerdydd
(
1877-84
);
Rhosddu
,
Wrecsam
(
1884-91
); a
Chalfaria
,
Llanelli
(
1891-1904
). Cwmnïai â
phrydyddion
, a rhigymai er yn llanc. Enillodd gadeiriau yn
Wrecsam
(
1884
),
Rhosllanerchrugog
(
1887
),
Castellnewydd Emlyn
(
1888
),
Pontyberem
(
1901
),
Felinfoel
(
1901
), a'r
goron
yn
eisteddfod genedlaethol y Rhyl
(
1904
) am bryddest ar ‘
Tom Ellis
.’ Efe oedd
golygydd Cymraeg
y
Llanelly Mercury
. Bu f.
30 Tachwedd 1904
.
Llyfryddiaeth:
-
Seren yr Ysgol Sul yn cynwys bywgraffiaeth,
hanesiaeth naturiol, barddoniaeth, cerddoriaeth,
&c.;
, Llanelli
,
Hydref 1904
;
-
Seren Cymru
,
Rhagfyr 1904
;
-
Y Geninen
(Gŵyl Dewi),
1906
.
Awdur:
Y Parch. William Joseph Rhys, (1880-1967), Gelli, Rhondda /
Treherbert