HUMPHREYS, RICHARD GRIFFITH ('Rhisiart o Fadog '; 1848 - 1924), newyddiadurwr

Enw: Richard Griffith Humphreys
Ffugenw: Rhisiart O Fadog
Dyddiad geni: 1848
Dyddiad marw: 1924
Rhiant: Elizabeth Humphreys
Rhiant: William Humphreys
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: newyddiadurwr
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: John James Jones

Ganwyd ym Mhorthmadog, mab Capten William Humphreys ac Elizabeth ei briod. Aeth i'r môr pan oedd yn 13 mlwydd oed. Trwy dro siawns digwyddodd brynu llyfr Saesneg, ac enynnodd hyn ynddo'r awydd am ddiwylliant. Trwy ei ymdrechion ef ei hun llwyddodd cyn bo hir i ennill medr mewn darllen ac ysgrifennu Saesneg a Chymraeg, a dysgodd beth Roeg a Lladin hefyd. Yn 1866 gwnaed ef yn negesydd mewn swyddfa yn ei dref enedigol, a dwy flynedd yn ddiweddarach fe'i gwnaethpwyd yn glerc. Yn lled fuan fe gafodd cyfraniadau o'i waith eu derbyn gan Yr Herald Cymraeg, a dyna oedd dechrau gyrfa ddiwyd a ffrwythlon fel newyddiadurwr. Bu'n gwasanaethu nifer o bapurau blaenllaw Gogledd Cymru, megis y Cambrian News, Yr Herald Cymraeg, Y Genedl, Y Werin, yr Observer, a'r North Wales Chronicle. O dan y ffugenw ' Rhisiart o Fadog ' bu'n llwyddiannus iawn mewn eisteddfodau lleol. Yr oedd yn ŵr prysur a phoblogaidd ym mywyd cymdeithasol deheubarth Sir Gaernarfon, a gwasnaethodd ar amryw bwyllgorau. Bu am dro hefyd yn bregethwr lleygol. Bu farw 17 Tachwedd 1924 yn 76 oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.