HUMPHREYS, GEORGE (1747? - 1813), clochydd, bardd

Enw: George Humphreys
Dyddiad geni: 1747?
Dyddiad marw: 1813
Plentyn: George Humphreys
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clochydd, bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Edward Jones

a chyfaill ' Twm o'r Nant.' Dywed ' Harri Myllin ' yn Cymru (O.M.E.), 1893, mai yn Llanrhaeadr Mochnant y ganed ef ac y treuliodd ei oes. Methwyd â darganfod cofnod ei fedyddio yno, ond yno y claddwyd ef, 10 Mehefin 1813, yn 66 oed. Yr oedd gan ' Cynddelw ' feddwl mawr ohono fel bardd, a dywed mai efe a James Jones oedd y beirdd gorau yn Llanrhaeadr. Yn llawysgrif ei fab George Humphreys (NLW MS 6729B ) ceir copïau o'i waith yn englynion, carolau plygain, Pasg, a Sulgwyn, cerddi duwiol, a phenillion gofyn ewyllys da John Jones o'r Frongoch i'r cryddion.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.