HUGHES, WILLIAM (1849 - 1920), clerigwr ac awdur

Enw: William Hughes
Dyddiad geni: 1849
Dyddiad marw: 1920
Priod: Mary Hughes (née Thomas)
Rhiant: Elizabeth Hughes
Rhiant: David Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd ym Mangor 11 Chwefror 1849, mab David Hughes, capten llong, ac Elizabeth, ei wraig. Addysgwyd yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan. Bu'n gurad Glasinfryn, 1872-5, yn gaplan yr eglwys Gymraeg yng Nghaer, 1875-80, ac yn ficer Llanuwchllyn o 1880 hyd ei farwolaeth yno 29 Mawrth 1920; priododd Mary Thomas, a chafodd amryw blant. Yr oedd yn awdur hanesyddol hynod ddiwyd; y pwysicaf o'i lyfrau niferus yw ei Life of Dean Cotton, 1874; Life and Letters of Thomas Charles of Bala, 1881, 1909; Life and Times of Bishop William Morgan, 1891; Recollections of Bangor Cathedral, 1904; History of the Church of the Cymry, 1894-1904; a'r History of the Diocese of Bangor, 1911, yng nghyfres y S.P.C.K.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.