HUGHES, WILLIAM (bu farw1794?), gwneuthurwr clociau yn Llundain

Enw: William Hughes
Dyddiad marw: 1794?
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwneuthurwr clociau
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes
Awduron: Thomas Mardy Rees, Robert Thomas Jenkins

Brodor o blwyf Llanfflewin, sir Fôn, ydoedd. Aeth i Lundain cyn 1755, ac yr oedd ganddo fusnes yn 119 High Holborn. Cafodd ryddfreiniad Cwmni y Gwneuthurwyr Clociau ('The Worshipful Company of Clockmakers') yn 1781. Yn 1860, pan anrheithiwyd Pekin, darganfuwyd oriawr gerddorol a wnaethai Hughes i ymherodr China. Yr oedd mewn busnes yn y Dial, King Street, High Holborn, ac yn Lower Grosvenor Street hyd 1794.

Yr oedd yn aelod o'r Cymmrodorion o'r cychwyn, yn is-lywydd yn 1759, ac yn gyfaill i Robert Hughes ('Robin Ddu yr Ail '); gweler Cymm., 1951, 65, a'r atodiadau; Bulletin of the Board of Celtic Studies, vi, 234.

Awduron

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.