HUGHES, WILLIAM (1779 - 1836), peiriannydd

Enw: William Hughes
Dyddiad geni: 1779
Dyddiad marw: 1836
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: peiriannydd
Maes gweithgaredd: Peirianneg, Adeiladu, Pensaerniaeth Forwrol ac Arolygu Tir
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

Ganwyd yn Penyclawdd, sir Fynwy. Hyfforddwyd ef fel peiriannydd, ac enillodd gryn fri yn yr alwedigaeth honno. Ymhlith y cynlluniau y bu'n gysylltiedig â hwynt yr oedd yr Ellesmere Canal, y Caledonian Canal, dyfnhau'r Clyde, a glanhau Lough Neagh. Bu farw yn Northampton, 1836.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.