HUGHES, THOMAS (1814 - 1884), gweinidog Wesleaidd

Enw: Thomas Hughes
Dyddiad geni: 1814
Dyddiad marw: 1884
Rhiant: Thomas Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Wesleaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Griffith Thomas Roberts

Ganwyd yn Llangynog, 1814, mab Thomas Hughes, pregethwr cynorthwyol wedi hynny ar gylchdaith Llangollen, a nai'r Parch. Evan Hughes. Aeth i'r weinidogaeth a theithiodd ar gylchdeithiau Cymraeg Aberteifi (1842) a Chaerfyrddin (1844), ac ar gylchdeithiau Saesneg yn Lloegr o 1846 hyd 1871. Bu farw 31 Ionawr 1884 ym Moreton. Cyhoeddodd amryw lyfrau (megis The Great Barrier; Prayer and the Divine Order; The Human Will) a llyfrynnau yn Saesneg. Achosodd ei safbwynt ynglŷn ag amodau aelodaeth eglwysig (gweler ei Condition of Membership a A Defence and Plea) gryn gynnwrf yn y cyfundeb a dug arno ef wg y gynhadledd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.