HUGHES, THOMAS (1758 - 1828), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Lerpwl,

Enw: Thomas Hughes
Dyddiad geni: 1758
Dyddiad marw: 1828
Plentyn: Mary Williams (née Hughes)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

a haedda sylw am mai ef oedd y cynghorwr Methodistaidd Calfinaidd cyntaf yn Lerpwl i gael ei ordeinio; ganwyd yn y Bala, yn fab i saer coed; ymunodd â'r seiat yno yn 1782. Aeth i Lerpwl yn 1787 i weithio fel saer; dechreuodd bregethu yn 1789 a (chyda Thomas Edwards) daeth yn arweinydd Methodistiaeth Gymraeg Lerpwl; cafodd ei ordeinio yn 1816. Yr oedd eisoes wedi tyfu o fod yn saer i fod yn adeiladydd, a bu wrthi'n codi capelau ym Manceinion ac yng Ngogledd Cymru. Bu farw 2 Tachwedd 1828, yn 70 oed. Y mae cyfrol goffa iddo ef a Thomas Edwards, gan John Jones (1829), sy'n cynnwys peth prydyddiaeth ganddo. Merch iddo, Mary (a fu farw 9 Medi 1860), oedd gwraig Richard Williams (1802 - 1842).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.