Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



HUGHES , ROWLAND ( 1811 - 1861 ), gweinidog Wesleaidd ; g. 6 Mawrth 1811 yn y Bala , a magwyd ef yn Nolgellau . Wedi ychydig addysg elfennol, prentisiwyd ef yn deiliwr . Yn 1830 aeth yn bregethwr cyflogedig i Ferthyr Tydfil ; wedi ei dderbyn i'r weinidogaeth gwasanaethodd gylchdeithiau Caernarfon ( 1832 ), Biwmares ( 1834 ), Lerpwl ( 1836 ), Treffynnon ( 1838 ), Llanasa ( 1840 ), Lerpwl ( 1843 ), Bangor ( 1846 ), Merthyr Tydfil ( 1849 ), Crughywel ( 1852 ), Manceinion ( 1854 ), Lerpwl ( 1857 ), a Dinbych ( 1860 ). Priododd Elizabeth , merch y Parch. David Evans ‘ y cyntaf .’ Bu f. yn Ninbych dydd Nadolig 1861 . Yr oedd yn un o brif bregethwyr Cymru yn ei ddydd. Cyhoeddodd gyfieithiad diwygiedig o esboniad John Wesley ar y Testament Newydd , cyfieithiad o bregeth gan Thomas Jackson ( Trefnyddiaeth Wesleyaidd ), ac o lyfr gan R. Young ( Cyfarchiad Caredig i rai newydd ddychwelyd , 1849 ). Ysgrifennodd Diffyniad Wesleyaeth , 1853 , yn erbyn y ‘ Diwygwyr Wesleaidd ’ a flinai gylchdeithiau Deau Cymru . Yr oedd hefyd yn un o olygyddion Casgliad o Hymnau , 1845 .

Llyfryddiaeth:

  • Griffith Jones , Byr-gofiant a galareb am y diweddar Barch. Rowland Hughes, gweinidog yr efengyl yn nghyfundeb y trefnyddion Wesleyaidd , Bangor, 1862 , 1862 ;
  • Rowland Hughes , Pregethau, darlithiau, a thraethodau wedi ei olygu, ynghyda darlith ar ei fywyd a'i athrylith , Caernarfon, 1877 (gol. J. H. Evans );
  • J. Jones , Y Bywgraffydd Wesleyaidd yn cynwys bras-hanes am un a thriugain o weinidogion Wesleyaidd Cymreig yn nghyda 35 o weinidogion a gwyr lleyg Saesonig , Machynlleth, 1866 , 125-9;
  • Yr Eurgrawn Wesleyaidd , Dolgellau , 1863 , 133-8, 177-9, 221-5, 265-8, 309-16.

Awdur:

Y Parch. Griffith Thomas Roberts, M.A., (1887-1977), Tregarth, Bangor / Talsarnau