HUGHES, ROBERT (1811 - 1892), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: Robert Hughes
Dyddiad geni: 1811
Dyddiad marw: 1892
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd ym Modgared, Llanwnda, Arfon, 25 Mawrth 1811, yn fab i dyddynnwr a newidiodd ei dyddyn deirgwaith neu bedair ym more oes ei fab, ond a gartrefodd o'r diwedd ym Moelfre Fawr, Llanaelhaearn, lle y bu farw yn 95 oed. Ychydig iawn o ysgol (bu am dymor gyda 'Dafydd Ddu Eryri') a gafodd y bachgen, ond yr oedd yn gerfiwr medrus â'r gyllell dwca. Yn 1830, aeth gyda gyr o wartheg i Lundain, gan ddisgwyl help yno gan y mathemategwr Griffith Davies, perthynas i'w fam; a chafodd Davies waith iddo. Ymaelododd yn Jewin, ac yr oedd Hugh Owen yn athro ysgol Sul arno. Ond yn 1833 cymerodd ei dad fferm fawr (a drwg ei chyflwr) Uwchlaw'r-ffynnon iddo, a bu'n rhaid iddo weithio'n eithriadol galed i ddal ei dir. Er hynny, fe'i diwylliodd ei hunan gan ddarllen yn ddygn; byddai hefyd yn prydyddu, ac enillodd wobrau eisteddfodol (e.e. yn Llannerch-y-medd, 1835); daeth yn gyfaill i Ellis Owen, Cefn-y-meysydd, ac 'Eben Fardd'; ac y mae'n amlwg i'w alluoedd ennill sylw, oblegid ceisiodd J. H. Cotton ganddo ymbaratoi at urddau eglwysig, a chynigiodd eraill ei anfon i Brifysgol Llundain. Ond ni allai adael ei fferm, yn enwedig ar ôl iddo briodi a dechrau magu teulu; bu raid ymfodloni ar holi myfyrwyr a ddeuai i'w dŷ pa lyfrau a ddefnyddid yn y Bala, ac ymlafnio ag elfennau Groeg a Hebraeg a Lladin wrtho'i hunan.

Yr oedd wedi dechrau pregethu yn 1838 (blwyddyn ei briodas â Catherine Hughes o'r Gelli, Deneio), ac yn bregethwr pur hynod, a bu'n teithio gyda John Jones, Talsarn; yr oedd yn ffraeth ei dafod a chyda hynny'n pregethu'n ddarluniadol. Ordeiniwyd ef yn 1848, ac yr oedd yn fugail answyddogol ar y capel (Babell) a gododd yn 1857. Bu farw 3 Mai 1892.

Yr oedd yn ddyn eithriadol iawn, ac y mae ei hunangofiant (a gyhoeddwyd, gyda detholiad o'i bregethau, yn 1893) yn ddiddorol dros ben. Greddf yr artist oedd ynddo: naddu llwy bren, saernïo englyn, tynnu darlun mewn pregeth, ac yn ddiwethaf oll, ac yntau'n 60 oed, mynd ati i dynnu darluniau mewn olew.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.