Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



HUGHES , WILLIAM ROBERT ( 1798? - 1879 ), meddyg cancr a'r ‘ddafaden wyllt’ ; g. yn Tanyrallt , plwyf Abererch , sir Gaernarfon , o deulu y dywedid fod ganddynt allu eithriadol i wella'r ddafaden wyllt , etc. Ar ôl priodi symudodd i fyw yn Mur Crysto , Llangybi , 1821 . Yr oedd yn gyfeillgar â David Owen (‘ Dewi Wyn o Eifion ’) , Ebenezer Thomas (‘ Eben Fardd ’) , a Robert Williams (‘ Robert ap Gwilym Ddu ’) . Gymaint oedd ei allu fel y gelwid ef ‘ Dewin y Cennin .’ Ymfudodd i U.D.A. yn 1845 , gan ymsefydlu yn Columbus , Wisconsin ; dywedir mai yn ei dŷ ef yno y traddodwyd y bregeth Gymraeg gyntaf yn nhalaith Wisconsin . Parhaodd gyda'i waith o drin cancr a'r ‘ddafaden wyllt’ yn America . Bu f. 15 Mawrth 1879 .

Llyfryddiaeth:

  • Y Brython (Tremadog), 1859, 221; 1860, 32;
  • Y Cenhadwr Americanaidd sef cylchgrawn gwybodaeth fuddiol a dyddorawl i Gymry America / The American messenger , Utica, Efrog Newydd, 1840-1901 , 1867 , 374; 1879 , 154;
  • Y Cyfaill cylchgrawn misol y Presbyteriaid Cymreig yn America , 1838–1933 (Utica), 1879 , 270-1.

Awdur:

Robert (Bob) Owen, O.B.E., M.A., (1885-1962), Croesor