Nid oes nac awdl na chywydd ar glawr o'i waith, ond y mae rhai englynion. Ond ei gerddi rhydd yw ei gerddi pwysicaf. Ceir ei waith yn Cymdeithas Llên Cymru , i, Carolau Richard Hughes , a Cymdeithas Llên Cymru , v-vi, Caniadau yn y Mesurau Rhyddion , lle y ceir ar dud. 49 ganddo dri phennill o faled, ‘ Bywyd y Bugail ’; gw. Jnl. Welsh Bibliog. Soc. , ii, 243, ‘ An Early Printed Welsh Ballad .’ Ceir ei waith hefyd yn Cynfeirdd Lleyn , Canu Rhydd Cynnar ( T. H. Parry-Williams ), ac yn B.B.C.S. iii, 128, ‘ Cyfeiriadau at Richard Hughes, Cefn Llanfair .’ Bardd serch ydoedd; bardd serch a ragflaenodd Huw Morys a'i ysgol. Tri mesur sydd ganddo yn ei gerddi, ac y mae'r rhan fwyaf ohonynt ar ffurf ymddiddan. Y mae blas gwlad ar ei ganu. Bu f. yn 1618 ; claddwyd ef yn eglwys Llanbedrog , ac ysgrifennodd Gruffydd Phylip farwnad arno ( Cymm., xlii , 199).
David Gwenallt Jones, M.A., (1899-1968), Aberystwyth