HUGHES, ELIZABETH PHILLIPS (1851 - 1925), addysgydd

Enw: Elizabeth Phillips Hughes
Dyddiad geni: 1851
Dyddiad marw: 1925
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: addysgydd
Maes gweithgaredd: Addysg
Awdur: Megan Lewis

Ganwyd yng Nghaerfyrddin, 12 Gorffennaf 1851, merch John Hughes, meddyg, ac Anne (Phillips) ei wraig. Hugh Hughes, gweinidog gyda'r Methodistiaid Wesleaidd, oedd ei thaid; ar ochr ei mam yr oedd yn disgyn o Iddewon a Saeson. Arferai ei brawd, Hugh Price Hughes ddweud mai'r cymysgedd gwaed hwn oedd yn cyfrif am y bywiogrwydd meddwl a oedd yn nodweddiadol ohono ef a'i chwiorydd - gwnaethant i gyd enw iddynt eu hunain. [Gweler dan Samuel Levi Phillips ]

Bu Elizabeth Phillips Hughes yn Hope House, Taunton, yn y Cheltenham Ladies College, ac yn athrawes yn Cheltenham am bedair blynedd cyn mynd i Goleg Newnham, Caergrawnt, yn 1881. Yno pasiodd yn y dosbarth cyntaf arholiadau'r Tripos mewn gwyddoniaeth foesol yn 1884 ac yn yr ail ddosbarth mewn hanesiaeth yn 1885. Cafodd ei dewis, yn 1885, yn bennaeth cyntaf y Cambridge Training College for Women Teachers. Sefydliad ac antur newydd ydoedd hwn, ac y mae'n ddiau iddo lwyddo fel y gwnaeth oblegid ei gwaith mawr hi fel arloeswr. Ymddeolodd a mynd i fyw yn y Barri yn 1899. Yn y blynyddoedd a ddilynodd bu'n teithio i ddarlithio yn Ewrop ac America; bu hefyd yn dal cadair yn Tokyo, Japan, am chwe mis. Wedi iddi ymneilltuo parhaodd i hyrwyddo addysg uwchraddol i ferched; yr oedd yn aelod gweithgar o'r ' Association for the Promoting the Education of Girls in Wales.' Ymysg ei herthyglau a'i phamffledi y mae: ' A National Education and its Application to Wales,' ' The Education of the Majority,' a ' The Training of Teachers,' pwnc a oedd o ddiddordeb arbennig iddi hi. Meddai hi mewn un erthygl ('The Educational Future of Wales'): ' I felt that the quickest, most effective way of improving education was to induce teachers to be trained and to try to improve training.' O 1902 hyd ei marw yr oedd yn aelod cyfethol o bwyllgor addysg sir Forgannwg ac, yn ystod y cyfnod hwnnw, yn aelod o lawer o is-bwyllgorau ac yn gadeirydd yr is-bwyllgor a oedd yn delio ag addysg genethod. Bu ei chysylltiad â Phrifysgol Cymru yn hir ei barhad; yr oedd yn aelod o'r llys - hyhi oedd yr unig ferch ar y pwyllgor a gynlluniodd siarter i'r brifysgol. Yn 1920 rhoddwyd iddi radd LL.D. 'er anrhydedd' gan Brifysgol Cymru; yn 1917 gwnaethpwyd hi yn M.B.E. oblegid y gwaith da a wnaeth dros y British Red Cross yn Ne Cymru. Bu farw 19 Rhagfyr 1925.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.