HUGHES, HUGH MICHAEL (1858 - 1933), gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: Hugh Michael Hughes
Dyddiad geni: 1858
Dyddiad marw: 1933
Priod: Mary Ann Hughes (née Howell)
Plentyn: Elizabeth Mary Hughes
Rhiant: Elisabeth Hughes
Rhiant: Michael Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Michael Hughes

Ganwyd 13 Awst 1858 yn Llanllechid, Sir Gaernarfon, mab Michael ac Elisabeth Hughes. Cafodd ei addysg yn y Coleg Coffa, Aberhonddu, ac yng ngholegau'r brifysgol yn Aberystwyth a Chaerdydd. Fe'i hordeiniwyd yn 1886 a bu'n bugeilio eglwysi'r Hen Dabernacl, Caergybi; Grove Street, Lerpwl; ac Ebenezer, Caerdydd - yr olaf o'r rhain am yn agos i 40 mlynedd. Yr oedd yn bregethwr nodedig, yn amlwg iawn yng nghylchoedd addysg Cymru, ac yn ysgrifennu ar bynciau diwinyddol, gwleidyddol, a chymdeithasol.

Bu'n golygu Y Tyst, papur wythnosol yr Annibynwyr Cymraeg, am rai blynyddoedd, ac am 20 mlynedd yn ysgrifennydd cronfa ariannol capeli ei enwad. Bu'n llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, yn is-lywydd Coleg Prifathrofaol Caerdydd, ac yn aelod o Lysoedd Prifysgol a Llyfrgell Genedlaethol Cymru; yr oedd hefyd yn aelod o fwrdd diwinyddol Prifysgol Cymru ac yn gadeirydd pwyllgor y Coleg Coffa, Aberhonddu. Cyhoeddodd John Penry, Yr Iesu Sicr, Griffith John, arwr China, ac Esboniad ac yr Ephesiaid. Yr oedd yn B.A. (Cymru), 1898, gydag anrhydedd yn y dosbarth blaenaf mewn athroniaeth, a chafodd radd LL.D. ('honoris causa'), 1930, gan ei brifysgol. Yr oedd hefyd yn O.B.E.

Priododd Mary Ann Howell, Aberystwyth, a bu iddynt fab a merch. Bu farw 15 Ionawr 1933 yng Nghaerdydd, a'i gladdu ym mynwent Cathays.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.